Isaiah 16

1Anfon oen

oddi wrth lywodraethwr y wlad,
o Sela yn yr anialwch
i fynydd Seion hardd:
2“Mae merched Moab wrth rydau Arnon,
fel adar wedi eu tarfu a'u gyrru o'r nyth.
3Rhowch gyngor!
Gwnewch benderfyniad!
Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn,
fel oerni'r nos rhwng gwres dau ddydd:
Cuddiwch ein ffoaduriaid!
Peidiwch bradychu'r rhai sy'n ffoi.
4Rhowch loches i ffoaduriaid Moab;
Cuddiwch nhw rhag y gelyn sy'n dinistrio.”
Pan fydd yr un creulon wedi diflannu,
a'r ysbeilio wedi dod i ben,
a'r gormeswyr wedi diflannu o'r tir,
5bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu –
un o deulu Dafydd.
Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon,
bydd yn frwd dros gyfiawnder
ac yn hybu tegwch.
6“Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab –
mae ei phobl mor falch!
Yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug –
ond mae ei brolio hi'n wag.” a
7Felly, mae Moab yn udo;
mae pawb yn Moab yn udo!
Mae'r rhai a anafwyd yn griddfan
am deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth.
8Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon
a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo.
Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloedd
wedi torri eu gwinwydd gorau.
Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser,
ac yn ymestyn i'r anialwch;
roedd eu brigau wedi ymledu
ac yn cyrraedd at y môr.
9Felly dw i'n wylo gyda Iaser
dros winwydd Sibma.
Gwlychaf di â'm dagrau
Cheshbon ac Eleale,
am fod y gweiddi llawen
am ffrwythau aeddfed dy gynhaeaf
wedi dod i ben.
10Mae'r miri a'r hwyl
wedi ei ysgubo i ffwrdd o'r gerddi.
Does dim canu na sŵn dathlu
i'w glywed yn y gwinllannoedd.
Does neb yn sathru'r grawnwin
i'r cafnau –
mae'r bwrlwm wedi tewi.
11Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn,
a'r cwbl sydd yno i dros Cir-cheres.
12Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol,
ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr,
fydd dim byd yn tycio.

13Dyna'r neges roddodd yr Arglwydd i Moab o'r blaen. 14Ond mae'r Arglwydd yn dweud nawr: Mewn tair blynedd union
16:14 tair blynedd union Hebraeg, “fel tair blynedd, fel blynyddoedd gweithiwr” h.y. yn cael eu cyfri'n fanwl gywir.
bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.

Copyright information for CYM